Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 7 Mawrth 2022
Amser:
14.01 -
15.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12651
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Eleri James, Comisiynydd y Gymraeg Gwenith Price, Comisiynydd y Gymraeg |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Datganodd Luke Fletcher ei fod yn aelod o Achub Milgwn Cymru.
2 Sesiwn Dystiolaeth - P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg ac Eleri James, uwch swyddog polisi, seilwaith ac ymchwil gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru
Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod y deisebydd ac wedi lansio llwybr rheoli trawiadau ac epilepsi cyntaf i oedolion yng Nghymru gyfan yn y Senedd y llynedd.
Nododd y Pwyllgor yr ymateb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn beth yw'r cynlluniau ar gyfer cynyddu nifer y nyrsys a lledaeniad nyrsys arbenigol epilepsi ledled Cymru.
3.2 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
Datganodd Jack Sargeant AS a Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'r ddau ohonynt yn adnabod y deisebydd.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr a chasglu tystiolaeth gan amrywiaeth eang o dystion.
3.3 P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n adnabod aelod o'r teulu sydd â ffibromyalgia.
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gofyn sut y mae wedi cefnogi prifysgolion a cholegau a gofyn pa drafodaethau a gafwyd ynghylch sicrhau bod cymaint o gyrsiau â phosibl ar gael drwy fynediad o bell.
3.4 P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Achub Milgwn Cymru.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gymryd tystiolaeth a chynnal ymchwiliad byr.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru
Ystyrioedd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i:
4.2 P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio
Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi rhoi mwy o fanylion am sut y mae’n bwriadu bwrw ymlaen â'i hymrwymiadau lles anifeiliaid, gan gynnwys gwella hyfforddiant a sgiliau swyddogion gorfodi awdurdodau lleol a bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi a sefydliadau lles anifeiliaid ac yn bwriadu ymgynghori ar eu blaenoriaethau. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
4.3 P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
4.4 P-06-1230 Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato
Yng ngoleuni'r ffaith bod y Gweinidog wedi darparu ymateb pellach ynghylch mynediad at gyllid, gan ddweud bod potensial o gyllid pellach yn cael ei ystyried ac y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried hyrwyddo hyn drwy rwydweithiau ysgolion a cholegau, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
4.5 P-05-949 Arbed yr hen ysgol ganolradd i ferched y bont-faen rhag ei dymchwel
Cydnabu'r Pwyllgor a chanmolodd yr ymgyrchu diflino a wnaed gan y deisebydd drwy gydol y broses hon. Yn dilyn y ddadl yn y Senedd ar 16 Chwefror, daeth yr aelodau i'r casgliad eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r ddeiseb hon, ac felly cytunodd i gau'r ddeiseb nawr a diolch i'r deisebydd.
5 Papur i'w Nodi - Llythyr ac adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ymgysylltu â phlant a phobl ifanc am flaenoriaethau’r Pwyllgor ar gyfer y Chweched Senedd
Nodwyd y papur.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 7 y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod tystiolaeth - P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg
Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y materion. Roedd y dystiolaeth yn tynnu sylw at y trefniadau personol yng Nghymru a'r diffyg pwerau statudol i weithredu argymhellion. Mae angen adolygiad manylach o'r darlun presennol cyn y gellir gwneud argymhellion i fynd i'r afael â'r sefyllfa gymhleth hon. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw Pwyllgorau perthnasol y Senedd at hyn.